Mae Canicross Ynys Môn bellach yn cynnig ystod eang o gyrsiau i bobl sydd am ddechrau canicross neu i
baratoi canicroswyr newydd ar gyfer eu ras cyntaf.  Gall ein hyfforddwyr ymdrin â phob agwedd ar hybu eich
ffitrwydd chi a’ch ci, bwyta’n iach ac ymarferion.

Cyrsiau ar gael:

Cyflwyniad i Canicross:

Sesiwn 1 awr yw hon sydd wedi’i anelu at bobl nad ydynt erioed wedi rhedeg â’u cŵn o’r blaen ac yn eu cyflwyno i’r gamp o
canicross.  Y cyfan sydd ei angen arnoch yw eich ci a pâr o esgidiau rhedeg.  Bydd offer canicross yn cael ei ddarparu. 
Nid oes unrhyw ofyniad ffitrwydd heblaw eich bod yn gallu cerdded, loncian neu redeg am awr.  Bydd y grwpiau’n cael eu
teilwra i’r bobl sy’n mynychu’r cwrs.
Cost £5 y pen.

Dechreuwyr Canicross:

Mae hwn wedi’i anelu at bobl sydd newydd ddechrau canicross neu sydd am ddechrau canicross.  Fe’i cynhelir dros 4
wythnos, sesiwn 1 awr yr wythnos, byddwch yn dysgu pethau sylfaenol canicross.  Bydd offer canicross yn cael ei ddarparu
(dewch a’ch ci eich hun).
Cost y cwrs £40 (sy’n ddyledus yn wythnos 1).

Cwrs Paratoi ar gyfer Ras:

Os nad ydych erioed wedi cystadlu mewn ras o’r blaen, yna bydd y cwrs hwn yn rhoi cipolwg i chi o’r hyn i’w ddisgwyl yn
eich ras gyntaf.  Bydd y cwrs yn 1 sesiwn o 2 awr, bydd rhan ohono yn theori a bydd rhan yn ymarferol.
Disgwylir y bydd gennych chi’ch holl offer canicross eich hun a bod gennych rywfaint o brofiad canicross. 
Cost y cwrs yw £10.

Mae dyddiadau a lleoliadau ar gyfer y cyrsiau hyn i’w gweld ar ein tudalen hyfforddi ar Facebook - cliciwch yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch neges drwy’r FB neu siaradwch â James/Angharad.

Ein Hyfforddwyr

James Harwood. 
Mae James wedi bod yn ymwneud â canicross ers 2009.  Mae wedi rasio mewn gwahanol ddigwyddiadau ledled y DU ac
wedi cynrychioli y DU 3 gwaith ym Mhencampwriaethau Ewropeaidd ECF, Gwlad Belg yn 2010, Gwlad Pwyl yn 2011 a
Cirencester (DU) yn 2012.  Mae James yn un o sylfaenwyr clwb Canicross Ynys Môn.

Angharad Woodall
Dechreuodd Angharad canicross yn fuan ar ôl i Canicross Ynys Môn gael ei ffurfio yn 2013.  Mae hi wedi rasio mewn
amryw o ddigwyddiadau ledled y DU.  Mae Angharad hefyd yn hyfforddwr personol, yn hyfforddwr ffitrwydd, hyfforddwr
“martial arts” ac hefyd wedi arbrofi mewn ymarferion “stunts” i ferched….