Cael y gêr iawn!
Yn aml, bydd pobl yn gofyn i ni pa offer sydd orau iddynt a’u ci, ond i fod yn onest, mae yna amrywiaeth o offer ar gael. Yr hyn yr ydym yn ei awgrymu yw eich bod yn dod i redeg efo’r clwb er mwyn i chi gael profi a gweld beth sy’n addas i chi a’ch ci. 
 
Yna gallwn naill ai werthu offer canicross i chi neu eich cyfeirio at gyflenwr profiadol er mwyn sicrhau eich bod yn cael yr offer gorau posib!